Cyfrifon

Paratoi a chyhoeddi cyfrifon ariannol statudol ar gyfer 2021-22

Y disgwyl ar hyn o bryd yw y bydd yr offeryn statudol sy’n diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 mewn grym o [3 Rhagfyr 2022] ac y bydd y diwygiad i’r Cod yn cael ei gymeradwyo erbyn canol mis Tachwedd. Yn unol â hynny, rwy’n ysgrifennu i awgrymu y dylai cydweithwyr geisio cyhoeddi cyfrifon archwiliedig terfynol erbyn 31 Ionawr 2023.

Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn gwneud darpariaeth eisoes ar gyfer awdurdod yn gorfod oedi wrth baratoi a chyhoeddi ei gyfrifon ariannol blynyddol. Yn rhinwedd rheoliad 10(4), mae awdurdodau yn gallu cynnwys nodyn ar wefannau i ddweud pam nad ydynt wedi paratoi neu gyhoeddi eu cyfrifon o fewn y terfynau amser presennol i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.