Pen-y-groes
Neuadd Goffa Pen-y-groes -
www.penygroeswelfarehall.org.ukMae pentref Pen-y-groes yn adnabyddus ar draws y byd oherwydd yr Eglwys Apostolaidd a sefydlwyd yno ym 1916. Ceir dau gapel Annibynnol Cymraeg yno sef Mynydd Seion a chapel Pen-y-groes, hefyd Calfaria - capel y Bedyddwyr, Jerwsalem y capel Methodistaidd ac Eglwys Efengylaidd.
Roedd y pentref hefyd yn adnabyddus oherwydd y glo a gloddiwyd o'r glofeydd ar oledd a drifft ac yn fwy diweddar gloddio glo brig; roedd yr ardal yn gyfoethog o ran glo carreg o safon uchel iawn. Mae'r tir a ddefnyddiwyd 'nawr yn cael ei adfer ar gyfer datblygiad preswyl ers cau'r lofa ddofn.
Mae gan y pentref ychydig o siopau bach, ysgol gynradd, grwpiau meithrin, neuadd ac amryw o barciau neu adnoddau hamdden ac adnoddau amrywiol eraill.
Blaenau
Ceir ysgol gynradd a thafarn/bwyty ym mhentref Blaenau. Yn y gorffennol bu cloddio glo brig yn yr ardal i'r de o'r pentref, mae'r tir bellach wedi ei adfer. Mae'n ardal breswyl yn bennaf sy'n un a Chae'rbryn.
Cyswllt ar gyfer hanes y CRP a'r glofeydd yn yr ardal: www.blaenau-badgers.com
Cae'rbryn
Mae Cae'rbryn eto'n bentref preswyl gyda neuadd bentref poblogaidd a gaiff ei defnyddio ar gyfer amryw o achlysuron a chyrsiau; ceir eglwys yn y pentref hefyd.
(
www.carmarthenshirehalls.org.uk)
Gors-ddu
Mae Gors-ddu eto yn ardal rhannol breswyl rhannol wledig sydd rhwng Capel Hendre a Phen-y-groes.