Ward Llandybie

Hanes Plwyf Llandybie: www.genuki.org.uk/big/wal/CMN/Llandybie/Gomer.html

O fewn Ward Llandybie ceir pentrefi Llandybie, Pentregwenlais, Derwydd ac i'r de - Bonllwyn.

Llandybie
Mae'r eglwys yn Llandybie sy'n nodwedd amlwg o fewn y pentref yn dyddio nôl i'r drydedd ganrif ar ddeg, ac fe gafodd y cloc ei ychwanegu ym 1920 fel Cofeb Rhyfel. Ceir Sïon, yr Eglwys Annibynnol Gymraeg, Gosen, capel y Methodistiaid ac Eglwys Apostolaidd Ebeneser, o fewn y pentref.

Mae gan y pentref amrywiaeth o siopau, tafarnau gyda rhai yn paratoi bwyd, a bwyty a restrwyd gan 'Michelin' a hefyd amryw o gaffis a chyfleusterau bwyd parod. Yn ogystal ag ysgol gynradd a grwpiau meithrin, ceir hefyd amryw o adnoddau eraill megis y Neuadd Goffa Gyhoeddus (www.carmarthenshirehalls.org.uk), amryw o adnoddau chwaraeon ac adloniant. Mae Llinell Reilffordd Canol Cymru yn rhedeg drwy'r ardal a cheir gorsaf yn Llandybie.
Pentregwenlais
Gorwedd Pentregwenlais ar ochr ogleddol Llandybie gan edrych i lawr ar y gweithfeydd calch a gaewyd ac ar olion rhai o'r amryw odynnau calch yn yr ardal, gan i'r ardal fod yn gyfoethog mewn dyddodion carreg galch a glo ac i'r afon Marlais sy'n rhedeg drwy Landybie ynghyd a'r rheilffordd fod yn sylfaen i'r diwydiant.

Derwydd
Mae pentref Derwydd ymhellach i'r gogledd eto ac yn ardal wledig, gyda chapel Bedyddwyr Soar yng nghanol y wlad yn edrych at gastell Carreg Cennen ar gyrion pentref Llandyfan. Mae gan Derwydd dafarn - Y Coleg sydd ar y briffordd o Landybie i Landeilo.

Bonllwyn
Lleolir Bonllwyn ar yr ochr ddeheuol o Landybie ac ar gyrion dref Rhydaman; ardal breswyl ydyw'n bennaf.