Hysbysiad o swydd wag gynghorydd yn Penygroes
Ward Penygroes Sedd Gwag.pdfCCC_co-opt_Llandybie (Penygroes) 020924.pdf
Hysbysiad o swydd wag i gynghorydd yn Ward Heol Ddu
Swyddi gwag Ward Heol Ddu
Pecynnau gardd am ddim i gymunedau efo Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Serch ei enw mae gan Gyngor Cymuned Llandybie bedair Ward o fewn ei gofal, sef Llandybie, Pen-y-groes, Saron a Heol-ddu, ac mae'r rhain yn eu tro yn cynnwys un ar ddeg o bentrefi ynghyd a phentrefannau yn amrywio o Landybie prysur gyda'i eglwys nodweddiadol, sawl siop fach ac amryw o adnoddau lleol eraill, i Ward wledig Heol-ddu â godre'i mantell yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Dros amser bu gan yr ardal ei rhan yn y diwydiant cloddio glo o fewn Wardiau Pen-y-groes, Saron a Llandybie gan gynhyrchu glo carreg o safon uchel iawn. Bu ardal Ward Llandybie yn un o'r canolfannau cynhyrchu calch pwysicaf yng Nghymru, yn ymestyn o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at ganol yr ugeinfed ganrif oherwydd nifer helaeth y chwareli calchfaen fu yn yr ardal.
Gwelir y diwydiannau presennol wedi eu canoli o amgylch ardaloedd Llandybie a Chapel Hendre.