Mae gan yr ardal wledig hon ychydig o adeiladau preswyl fan hyn a fan draw, ffermydd a thyddynnod ac mae darn bach ohoni yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ceir ffin y Ward ychydig o bellter i fyny Ffordd Wern-ddu ar gyrion Rhydaman ac fe ymestyn dros ran o'r ardaloedd uwch i fyny tuag at Ffordd y Mynydd a Glanaman. Hyd at y flwyddyn 2003 bu cangen Ysgol Sul o Gapel Annibynnol Cymraeg Gellimanwydd yn Rhydaman yn cael ei chynnal yn Nebo ar Heol-ddu, a godwyd ym 1901 ac yn ystod ei amser, yn ogystal â bod yn Ysgol Sul lewyrchu fe'i defnyddiwyd fel ysgol ddyddiol, man cyfarfod ar gyfer Cyngor Gwledig Llandeilo bu hefyd yn ganolfan ar gyfer preswylwyr Heol-ddu. Pan werthwyd Nebo yn derfynol ym 2003, dymchwelwyd yr hen adeilad gan y perchennog newydd ond cadwyd y garreg oedd ar flaen yr adeilad gyda'r enw a'r dyddiad y'i codwyd a'i gosod yn wal ffin y cartref, ac felly fe gedwir Nebo ar Heol-ddu.