Gwybodaeth am y Cyngor

Pa Wasanaethau mae Cyngor Cymuned Llandybie yn eu Cynnig

Mae gan Gyngor Cymuned Llandybie gyfrifoldeb Cyffredinol dros les y gymdogaeth leol ac mae'n gweithio ar lefel lleol. Mae'n haen o'r llywodraeth leol sydd agosaf at y bobl, sef haen islaw'r Cyngor Sir. Mae ei gwaith yn syrthio i dri phrif gategori:

  1. Cynrychioli'r gymuned leol
  2. Thoi gwasanaethau sy'n ateb anghenion lleol
  3. Ymdrechu i wella ansawdd bywyd o fewn y gymuned

Dyma'r prif waith a gyflawnir gan Gyngor Cymuned Llandybie:

  • Cynnal Hawliau Tramwy Cyhoeddus, llwybrau cyhoeddus, llwybrau beicio a marchogaeth, seddau min y ffordd a hysbysfyrddau cyhoeddus a darparu llochesi aros am fws
  • Darparu cymorth ariannol i elusennau lleol a chymdeithasau sydd o fudd i breswylwyr lleol
  • Ystyried a chynghori/rhoi sylwadau ar geisiadau ar gyfer caniatâd cynllunio o fewn y Gymuned
  • Cynrychioli/cysylltu rhwng etholwyr a'r Cyngor Sir neu gyrff cyhoeddus eraill
  • Cynghori/cysylltu gyda'r Cyngor Sir ynghylch materion diogelwch ffordd a chynnal a chadw
  • Cynnal y toiledau cyhoeddus yn Llandybie a Phen-y-groes
  • Cynnal rhai goleuadau stryd sydd yn eiddo i'r Cyngor
  • Cynnal Parciau a llefydd chwarae dan berchnogaeth y Cyngor Cymuned

Cyswllt â: http://www.sirgar.gov.uk/