Bioamrwyiaeth

Cyngor Cymuned Llandybie

Bywyd Gwyllt yn Llandybie

Bywyd gwyllt - Syniadaui  iweithredu arnynt

Pethau Bychain  

Negeseuon pwysig am torri gwair 

Nodiaidau natur Ebrill - Mehefin 2022 

Tratmentau chwynladdwyr gan CSG

DATBLYGU BIOAMRWYIAETH A’R AMGYLCHEDD ADRODDIAD

Hydref 2022

I gydymffurfio â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, rhaid i awdurdodau lleol ‘geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau ac, wrth wneud hynny, hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau’. Mae hyn yn golygu, wrth reoli’n parciau er lles y bobl, y dylai Cyngor Cymuned Llandybïe hefyd geisio cyfleoedd i gynnal a chadw a gwella’r bywyd gwyllt y mae’r ardaloedd hyn yn ei gynnal, a rheoli’r cynefinoedd megis glaswelltir a choed fel eu bod mewn cyflwr mor naturiol a gwydn â phosib. Mae’r ddyletswydd hefyd yn cefnogi ein cylch gwaith ehangach yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i sicrhau bod Cymru yn elwa ar economi ffynniannus, amgylchedd iachus a gwydn a chymunedau bywiog a chydlynus.

Mae Cyngor Cymuned Llandybïe wedi cynhyrchu cynllun gweithredu ers 2019, ac awgrymir derbyn hwn fel rhaglen waith at y dyfodol ar gyfer yr holl ‘dir glas’ sydd yn eiddo i’r Cyngor ar hyn o bryd, er mwyn datblygu cyfraniad y Cyngor Cymuned i’r materion pwysig hwn. Yn ychwanegol, awgrymir bod unrhyw dir ychwanegol, megis mwysydd chwarae neu lwybrau troed, a ddaw i berchnogaeth y Cyngor yn y dyfodol yn cynnwys cam gweithredu penodol sy’n gysylltiedig â’r ddyletswydd hon. 

 

Pwyntiau Gweithredu

Bydd angen adolygu’r gweithrediadau a gynhwysir yn y cynllun hwn yn reolaidd, ac adrodd yn ôl yn eu cylch bob tair blynedd er mwyn cydymffurfio â’r gofynion statudol. Bydd y gweithrediadau sy’n codi o’r cynllun hwn yn diwallu rhwymedigaethau Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (2016), a bydd unrhyw anghenion cyllidol yn cael eu tynnu o’r cyllidebau presennol neu arian grant.

· Bydd pob cytundeb sy’n cael ei adnewyddu gan y Cyngor - e.e cynnal a chadw’r tiroedd, arddangosfeydd blodau - yn achub ar y cyfle i wella bioamrwyaieth yn yr ardal.

· Annog mudiadau lleol i hyrwyddo a chynnal a chadw bioamrwyiaeth.

· Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch unrhyw waith prosiect trwy gyfrwng gwefan y Cyngor a’r wasg leol.

· Ymgysylltu ag ysgolion i’w gwahodd i greu cynefinoedd ar gyfer adar a bywyd gwyllt arall.

· Cydweithio gyda mudiadau cenedlaethol e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru, i sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu dilyn mewn achosion o lygru afonydd, llifogydd a thipio anghyfreithlon. Ceiso cydweithrediad y cyhoedd i ddod â materion i’n sylw yn ddi-oed.

· Ystyried manteision net bioamrywiaeth pan yn ystyried ceisiadau cynllunio er mwyn sicrhau nad yw unrhyw ddatblygiad yn achosi colled sylweddol i gynefinoedd neu boblogaeth rhywogaethau.

· Parhau gyda’r gweithrediadau cymeradwyedig uchod a gytunwyd arnynt eisoes.

Bydd y Cyngor Cymuned yn ystyried cefnogi unrhyw fudiad sydd am hyrwyddo bioamrwyiaeth, a dylai mudiadau o’r fath gysylltu â Chlerc y Cyngor am wybodaeth bellach.

Bydd y cynllun hwn yn esblygu dros y tair blynedd nesaf, ac yn cael ei fonitro’n flynyddol gan y Cyngor Llawn.

 Tachwedd 2fed, 2022

Cyngor Cymuned Llandybïe

 

CYNLLUNIAU BLAENOROL 

Hydref 29ain 2019

2/12/2020 - Cynllun wedi' monitro yn y Cyngor Llawn a phenderfynu parhau â'r cynllun cyfredol am y 12 mis nesaf.

27/10/2021 -  Cynllun wedi' monitro yn y Cyngor Llawn a phenderfynu parhau â'r cynllun cyfredol am y 12 mis nesaf.

 

 

Pob Parc
Plannu coeden newydd yn lle unrhyw goeden sy’n cael ei chwympo yn dilyn Arolwg Coed Blynyddol.
Wedi’i gymeradwyo ac ar waith

Cadw’r holl lwyni a chloddiau presennol fel peillwyr.
Wedi’i gymeradwyo ac ar waith

Torri’r glaswelltir yn y parciau yn anamlach.

Wedi’i gymeradwyo ac ar waith

Plannu blodau gwyllt yn flynyddol.
Wedi’i gymeradwyo ac ar waith 

Arolygon coed blynyddol i sefydlu iechyd a diogelwch coed 

Wedi’i gymeradwyo ac ar waith 

Codi blychau ystlumod ym mharc Penygroes

Wedi’i gymeradwyo

Arall

Cymryd rhan yn y fenter Lleoedd Lleol dros Natur

 Wedi’i gymeradwyo ac ar waith

Prosiect posib sy'n defnyddio tir lleol ar gyfer prosiectau amgylcheddol i'w ystyried yn 2023 

Yn barhaus 

Pwyllgor amgylchedd wedi'i ffurfio i ddelio'n benodol â phrosiectau a materion parhaus

Wedi cwblhau - Awst 2022 

Tai Pryfyn - menter ysgolion lleol i'w hystyried yn 2022/2023

 Wedi’i gymeradwyo ac ar waith - Hydref 2022

 Rhestr o'r holl ddefnydd cyfleustodau mewn pafiliynau i'w gwblhau i'w hadolygu

Wedi cwblhau 

Ochrau’r Ffordd
Bod pob ward yn ardal y Cyngor yn plannu bylbiau cennyn pedr yn y mannau y cytunwyd arnynt.

Wedi’i gymeradwyo ac ar waith

Bod pob lamp stryd ym mherchnogaeth Cyngor Cymuned Llandybïe yn cael eu newid i lamp LED. 

Wedi cwblhau 

Rhaglen dreiglo cynnal a chadw seddau wayw gyda deunydd ailgylchadwy yn cael ei ddefnyddio fel eilyddion 

Wedi’i gymeradwyo ac ar waith 

Llwybrau Troed
Arolygu, yn barhaus, y cytundeb blynyddol parthed â chynnal a chadw’r Hawliau Tramwy Cyhoeddus a’r Llwybrau Troed o ran lled y llwybrau toed, gofynion torri yn ôl ayyb
Wedi’i gymeradwyo ac ar waith