Ward Saron

Saron
Gorwedd Saron i'r gorllewin o dref Rhydaman yn bentref lle bu cloddio glo. Yno mae ysgol gynradd, siop a thafarn gydag ardaloedd preswyl a hamdden. Ceir yn y pentref eglwys a chapel y Bedyddwyr.

Cwmgwili
Mae Cwmgwili erbyn hyn yn rhan o'r coridor i draffordd yr M4 a'r amryw adnoddau yng Nghross Hands cyfagos ond bu yn rhan annatod o'r ardal lofaol. Ardal breswyl sydd yno 'nawr yn bennaf gyda neuadd y pentref, cyn-addoldai a chanolfan hyfforddi ar gyfer gyrru amrywiaeth o gerbydau.

Neuadd Lesiant Glowyr Cwmgwili: www.ciswo-services.org.uk

Capel Hendre
Gorwedd Capel Hendre rhwng Pen-y-groes a Thy-croes yn ardal breswyl gydag ystâd ddiwydiannol eang sy'n gwasanaethu'r ardal o'i hamgylch. Cafodd y pentref ei enwi ar ôl y capel Methodistaidd Calfinaidd a sefydlwyd yno.

Pen-y-banc
Gorwedd Pen-y-banc ar gyrion tref Rhydaman ac mae'n ardal o natur preswyl. Ceir capel Bedyddwyr Pisgah, neuadd ac amryw o adnoddau hamdden ac ardaloedd parc agored yno.

Neuadd Lesiant Pen-y-banc - www.carmarthenshirehalls.org.uk