Mae'r Cynghorwyr yn dymuno rhoi gwybod i unrhyw un sy'n hunan ynysu gan ddilyn canllawiau diweddar y Llywodraeth i gysylltu â nhw pe bai angen unrhyw help gyda chasgliadau bwydydd neu fferyllfa. Byddwch yn ymwybodol bod rhai o'r Cynghorwyr yn hunan ynysu oherwydd y canllawiau.
Mae'r cynghorwyr yn cydnabod bod yr argyfwng presennol i rhai ohonoch sy'n byw ar eich pen eich hun o bosibl wedi dileu grwpiau neu sefydliadau y byddech fel arfer wedi mynychu o'ch calendr cymdeithasol. Maen nhw'n hapus ichi eu ffonio am sgwrs ar unrhyw adeg - mae eu rhifau ffôn ar y wefan.
Gellir gweld rhestr o'ch Cynghorwyr ward ar wefan y Cyngor.